Amdanom
Cawsom ni, fel teulu, ein geni a’n magu yng Nghymru. Roedden ni’n byw yn ardal Llandeilo a’r cyffiniau, gan symud i’r Bontnewydd-ar-Wy pan gododd cyfle i brynu siop bentref a swyddfa bost. Rydym yn Swyddfa Bost arobryn ar ôl ennill y Swyddfa Bost a’r Siop Orau yng Nghymru 2017 (gwobrau’r Gynghrair Cefn Gwlad). Gwnaethom hefyd ymddangos ar BBC One yn 2020, lle roedden ni’n tynnu sylw at ein cefnogaeth i’r gymuned, gan gynnig danfon nwyddau am filltiroedd.
Pan fydd penwythnos neu ddiwrnod rhydd prin gyda ni, lle nad oes rhaid i ni fod yn y gwaith, rydyn ni’n hoff iawn o ymweld â lleoedd o ddiddordeb yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys mynd i Lanusyllt, a bwyta pice ar y maen ffres a chynnes Mamgu ar yr harbwr; neu wersyllfa ym Mwnt a mwynhau brecwast Cymreig yn Crwst, Aberteifi.
Fel siop annibynnol rydyn ni wrth ein bodd yn gwerthu cynnyrch Cymreig ac yn cefnogi busnesau lleol gymaint ag y gallwn. Teimlwn fod cyflenwi pobl leol yn wych, ond roedden ni’n ceisio meddwl sut i gyrraedd cynulleidfa ehangach … felly ganwyd Bocs Lleol Cymru, Local Box Wales!

Rydyn ni’n cynnig dewis o focsys arbenigol ar gyfer pob achlysur; bocsys brand wedi’u llenwi â’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig. Beth am ychwanegu cerdyn cyfarch os ydych chi’n anfon bocs at rywun annwyl neu ar gyfer achlysur arbennig? Gallwn roi neges bersonol y tu mewn i’r cerdyn. Fel arall, gallwch chi chwilio a siopa yn y siop ar-lein a dewis o blith cannoedd o’n cynhyrchion Cymreig arbennig.
Wrth archebu o’r siop ar-lein, anfonir eich archeb at ein blychau diogel heb frand. Bydd eich archebion ar-lein yn cael eu hanfon yr un diwrnod os rydych chi’n archebu cyn 1pm. Bydd pob archeb gyda chynhyrchion oer yn cael eu hanfon gyda phecyn iâ y gellir ei ailddefnyddio / ailgylchu o fewn 24 awr.

Rydym wedi dewis yr ystod eang o gyflenwyr hyn oherwydd eu credoau a’u hangerdd, ansawdd y cynnyrch ac wrth gwrs, oherwydd eu bod i gyd wedi’u lleoli yng Nghymru, gan gyfrannu at ein heconomi. Edrychwch ar ein tudalen wybodaeth cyflenwyr.
Rydyn ni’n poeni am yr amgylchedd, felly mae ein holl focsys a rhynghaeniadau wedi’u hailgylchu’n llawn ac maent hefyd yn ailgylchadwy. Mae ein danfoniadau yn cyrraedd y siop ar yr un diwrnod – felly nid oes unrhyw filltiroedd bwyd ychwanegol trwy redeg y siop ar-lein. Gan ein bod ni’n rhedeg Swyddfa’r Post, nid oes rhaid i ni hyd yn oed yrru i bostio archebion – gallwn ddefnyddio’r cyfleusterau sydd gennym ar y safle.
I bobl leol, pobl sy’n galw heibio ar eu ffordd i’r gwaith neu bobl ar wyliau sydd eisiau mynd â rhywfaint o gynnyrch Cymreig adref i ffrindiau a theulu, gallwch archebu ar-lein cyn 1pm a chasglu’r un diwrnod o’n siop, (gwiriwch amseroedd agor a’r lleoliad yma).
Ein hangerdd a’n huchelgais yw helpu i ddarparu cynnyrch Cymreig o safon i fwy o gartrefi ledled Cymru a thu hwnt.
