Polisi Dychwelyd

Dychwelyd

Hyderwn y byddwch wrth eich bodd â’ch cynnyrch i’r un graddau â ni. Fodd bynnag, os digwydd i chi beidio, mae gennych 30 diwrnod ar ôl derbyn eich archeb i ofyn am gael ei dychwelyd.

Rhaid i bob eitem fod heb ei ddefnyddio yn ei bacediad gwreiddiol, ynghyd â’r derbynneb neu brawf o bryniant.

I gychwyn y broses ddychwelyd, cysylltwch â ni ar bocslleolcymru@gmail.com i ofyn am ffurflen ddychwelyd a chyfarwyddiadau ar sut i anfon eich parsel. Ni dderbynnir eitemau a anfonir yn ôl atom heb ofyn yn gyntaf am ffurflen.

Difrod neu broblemau

Os yw eich nwyddau wedi eu difrodi, yn wallus neu’n anghywir, cysylltwch â ni yn syth fel y gallwn werthuso a chywiro’r sefyllfa.

Eithriadau / Eitemau na ellir eu dychwelyd

Ni ellir dychwelyd rhai mathau o eitemau – mae’r rhain yn cynnwys nwyddau darfodus (fel bwyd), a nwyddau gofal personol. Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau neu bryderon am eich eitem benodol. Yn anffodus, ni fedrwch ddychwelyd eitemau oedd ar sêl na chardiau anrheg.

Cyfnewid

Y ffordd gyflymaf o sicrhau eich bod yn cael yr hyn yr ydych am ei gael yw dychwelyd yr eitem sydd gennych, ac unwaith mae hwnnw wedi ei dderbyn, gwnewch bryniant ar wahân ar gyfer yr eitem newydd.

Ad-daliadau

Byddwn yn rhoi gwybod i chi unwaith y byddwn wedi derbyn ac arolygu eich eitem ddychwelyd. Os wedi ei gymeradwyo, cewch eich ad-dalu’n awtomatig ar eich dull talu gwreiddiol. Cofiwch y gall gymryd peth amser i’ch banc neu gwmni cardiau credyd brosesu’r ad-daliad hefyd.

Galla i ddychwelyd fy archeb ar-lein i’r siop.

Yn anffodus nad ydym yn derbyn dychweliadau i’r siop am archebion ar-lein. Diolch